AMDANOM
Rydym ni’n grŵp anffurfiol o bobl leol sydd am weithredu nawr er mwyn helpu i achub a gwarchod llednentydd, aber, planhigion ac anifeiliaid dalgylch cyfan y Cleddau. Byddwn yn gwneud hyn drwy gyfrwng y canlynol:
- Codi proffil a dealltwriaeth o’r pwysigrwydd i ofalu am ein dyfrffordd, o’i tharddiad i’r môr.
- Creu a chynnal prosiectau Gwyddoniaeth Dinasyddion er mwyn monitro a helpu i adeiladu strategaeth hirdymor.
- Dylunio a chyflwyno adnodd addysgol sy’n berthnasol i’r cwricwlwm ar gyfer ysgolion cynradd ledled Sir Benfro.
- Dylunio adnodd hawdd ei ddefnyddio ar gyfer aelodau’r cyhoedd, sy’n eu galluogi i roi gwybod am lygredd.
- Herio rheoleiddwyr dŵr a Llywodraeth Cymru.
- Dwyn llygrwyr i gyfrif.
- Galw am weithredu i atal y llygredd ac adfer yr afon i gyflwr glân ac iach.