RHOI GWYBOD AM LYGREDD
Os ydych chi’n gweld neu’n arogli arwyddion o lygredd dŵr (gweler y canllaw darluniadol isod) mae’n hanfodol bwysig eich bod yn rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) cyn gynted â phosibl. Gallwch chi wneud hyn yma…
Awgrym ynghylch rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn fwy effeithiol pan fydd rhywbeth fel yr isod wedi’i gynnwys (mae croeso i chi gopïo a phastio hwn):
Hoffwn wybod pa ymateb fydd, wedi i mi roi gwybod i Gyfoeth Naturiol Cymru am achos o lygredd. Cynhwyswch y manylion hyn yn yr ymateb, os gwelwch yn dda:
- A wnaed ymweliad, ac os gwnaed – beth oedd dyddiad ac amser yr ymweliad.
- Beth oedd y categoreiddiad cychwynnol a’r rhesymau am hyn.
- Beth oedd y categoreiddio terfynol a’r rhesymau am hynny.
- Y camau a gymerwyd.
Yn ogystal, byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau ein ffurflen ni, er y bydd peth ohoni yn ailadrodd yr hyn yr ydych eisoes wedi’i wneud gyda ffurflen Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hyn yn bwysig gan y bydd y data a gasglwn yn ein galluogi i asesu cyflymder ac effeithiolrwydd ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i’ch adroddiad gwreiddiol, ac i greu darlun hirdymor o ddigwyddiadau llygredd ledled dalgylch y Cleddau. Gallwch chi wneud hyn yma…
Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru.
Cadwch lygad hefyd am lygredd piswail. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu ar ôl glaw trwm pan fydd piswail yn llifo oddi ar gaeau ac i mewn i’r afon trwy ffosydd a nentydd, gan achosi niwed i fywyd gwyllt dyfrol a bywyd gwyllt arall. Cadwch lygad am ddŵr brown neu wyrdd sy’n drewi! Enghreifftiau isod…