NEWYDDION A DIGWYDDIADAU
Tachwedd 2024
Annwyl Gyfeillion, Dilynwyr a Chefnogwyr
Ymddiheuriadau os yw pethau wedi ymddangos ychydig yn dawel ar wefan Prosiect Cleddau. Mae hyn yn fwy o adlewyrchiad ar ddiweddariadau i’r wefan (yr ydym yn ceisio unioni’r sefyllfa) na diffyg gweithgaredd y tu ôl i’r llenni!
Crynodeb byr o’r hyn sy’n digwydd…
Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol o adroddiadau BBC Cymru yn gynnar ym mis Tachwedd ynghylch troseddau difrifol yng Ngorsaf Bwmpio Picton yn Hwlffordd. Roedd hyn yn ganlyniad wythnosau o arsylwi a dadansoddi gan rai o’n gwirfoddolwyr, gwaith sy’n parhau.
Mae Cam 2 menter profi dŵr Prosiect Asesu Dalgylch y Cleddau (CCAP) wedi dechrau ers peth amser, gydag oddeutu 90 o wirfoddolwyr yn profi dros 40 o safleoedd ledled y dalgylch, ac mae 6 mis yn weddill eto! Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â chynllun Mabwysiadu Llednentydd Sir Benfro, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru.
Mae adroddiad llawn o Gam 1 o C-CAP ar gael yma.
Gyda chefnogaeth cyllid Codi’r Gwastad sylweddol, mae dros ddwsin o ysgolion cynradd Sir Benfro wedi cymryd rhan yn Fy Afon, sef portffolio o weithdai, gwasanaethau, teithiau ‘o’r traddiad i’r môr’ a theithiau afon. Daeth y gwaith hwn i benllanw ym mis Mehefin 2024 pan y daeth nifer dda o bobl ynghyd i weld arddangosfa o waith plant yn Haverhub, a chyflwyniad a lansiad map gwaith celf a gomisiynwyd a Chwricwlwm Cleddau i athrawon yn yr Archifau yn Hwlffordd, ganol mis Tachwedd. Mwy am hyn i ddilyn!
Rydym yn cynllunio ail Gyfarfod Cyhoeddus ar ddiwedd mis Ionawr 2025 a byddwn yn dosbarthu Cadwch y Dyddiad yn Glir ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn gynted â phosibl.
Diolch i bawb sydd wedi rhoi oriau o amser gwirfoddoli, wedi ‘ymuno â ni’ drwy’r wefan ac wedi’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram. Rydym ni bob amser yn croesawu eich syniadau, eich profiad, eich arbenigedd a’ch cynigion o gymorth; cysylltwch â ni ar info@thecleddauproject.org.uk.
Yn y cyfamser, peidiwch ag anghofio bod yr adnodd ‘Rhoi gwybod am lygredd’ yn fyw ar y wefan hon a bod y data’n cael ei gasglu. Os ydych chi’n gweld neu’n arogli digwyddiad yr amheuir ei fod yn llygru, rhowch wybod yn GYNTAF i CYFOETH NATURIOL CYMRU ac YN AIL i NI!
Diolch yn fawr.