Adfer iechyd ein dyfrffordd o’i tharddiad i’r môr

Croeso i Brosiect y Cleddau

Mae’r Cleddau mewn argyfwng. Mae degawdau o lygredd gan garthffosiaeth, amaethyddiaeth, diwydiant a ffynonellau eraill yn ogystal â newid yn yr hinsawdd yn peryglu iechyd a chynefinoedd ecosystem gyfan dalgylch yr afon yn ddifrifol. Mae ein hafon yn ddiffygiol ac mae angen inni weithredu nawr i’w hachub rhag dirywiad di-droi’n-ôl.

Mae’r Cleddau Ddu a’r Cleddau Wen yn uno ym Mhwynt Picton i ffurfio aber Daugleddau. Mae’r aber yn ymdroelli am oddeutu 16 milltir tua’r de, gan godi dŵr o afon Caeriw ac afon Cresswell ar ei ffordd i gwrdd â’r môr ym Mhenrhyn Santes Anne. Cyfeirir ati’n aml fel dyfrffordd gudd Sir Benfro.

Nod Prosiect y Cleddau yw tynnu sylw at y ddyfrffordd hardd, amrywiol a helaeth hon, y mae ei hiechyd da mor hanfodol bwysig i natur ac i bobl Sir Benfro.

Gan weithio gyda phobl, grwpiau a sefydliadau lleol, mae Prosiect y Cleddau eisiau meithrin perthynas ddyfnach â’n hafon, annog mwy o ofal am ei dyfroedd a’i chynefinoedd, ac adeiladu ymdeimlad o berchnogaeth o’r afon yn lleol trwy ddatblygu a chyflawni gweithredu cadarnhaol, ymarferol ar lawr gwlad.

Nod Prosiect y Cleddau yw darparu dull strategol a chydlynus o wella’r Cleddau ar hyd ei thaith o’i tharddiad i’r môr. Gobeithir y gellir dychwelyd yr isafonydd, y nentydd, yr afonydd a’r aber i iechyd da er budd natur, y gymuned a chenedlaethau’r dyfodol.

AMDANOM

PROSIECTAU

NEWYDDION A DIGWYDDIADAU

YMUNO Â NI

JOIN US