RHOI GWYBOD AM DDIGWYDDIAD O LYGREDD
Awgrymiadau ar gyfer uwchlwytho ffotograffau:
Pan fyddwch chi’n taro’r botwm, dylai eich dyfais roi o leiaf 3 dewis i chi:
- Mynd â chi i’r Camera i gymryd ffotograff, neu
- Mynd â chi i’r Camera (neu’r Camcorder) i gymryd Fideo, neu
- Mynd â chi at eich lluniau neu fideos sy’n bodoli eisoes (e.e. Lluniau, Ffeiliau neu Gyfryngau).
- (gallai 4ydd opsiwn fod yn mynd â chi i recordydd llais)
Pan fyddwch chi’n dewis yr un sy’n mynd â chi i ffotograffau/fideos sy’n bodoli eisoes, mae rhai dyfeisiau Android yn mynd â chi i mewn i system ffeilio lle gallwch chi fynd ar goll. Chwiliwch am y symbol hwn (≡) ar frig y sgrin a sgroliwch i lawr y rhestr i ddod o hyd i’r symbol hwn (eicon ffotograffau Google ). Bydd dethol hwn yn mynd â chi i restr arall a ddylai gynnwys Ffofograffau neu Camera, a fydd yn cynnwys eich ffotograffau a’ch fideos diweddar. Os byddwch chi’n mynd ar goll, cliciwch ar y botwm ‘yn ôl’ nes i chi gyrraedd yn ôl i rywle y gallwch chi barhau ohono.