Prosiect Gweilch y Pysgod Sir Benfro
Mae Abi Hart yn ysgrifennu am yr ymgais i ddod â gweilch y pysgod yn ôl i fridio ar y Cleddau
“Rwy’n credu bod y cynllun wedi’i lunio yn ‘parkrun’ un bore Sadwrn. Roedd Kevin Phelps, sydd â mab yn adaregydd ac sy’n adarwr brwd ei hun, yn ystyried gwneud aber y Cleddau yn fwy cyfeillgar i weilch y pysgod – felly dyma fo’n gofyn: Beth am i ni geisio gosod llwyfannau nythu?
Roeddem yn gwybod bod adar ifanc wedi cael eu gweld yn treulio’r haf ar yr afon ac mae adar llawndwf yn aros i fwydo yma yn ystod mudo’r gwanwyn a’r hydref. Felly, tybed allem ni berswadio un o’r adar ifanc hyn i aros ac i fridio?
Ar ddiwrnod rhewllyd ym mis Ionawr 2023, aethom ati mewn cwch pwmpiadwy (RIB) ar y dŵr er mwyn cynnal arolwg o’r safleoedd gorau posibl (yn ddelfrydol, safleoedd lle’r oeddem yn adnabod y perchnogion tir). Deryniasom gyngor gan yr elusen gadwraeth o’r enw Sefydliad Roy Dennis, megis chwilio am safleoedd agored lle byddai’n bosibl adeiladu llwyfan a fyddai’n hawdd i’r adar hynny sy’n hedfan uwchben y dŵr, ei weld.
Ar ôl cysylltu â’r perchnogion tir i gael caniatâd mewn egwyddor, roedd yn rhaid inni gael rhywfaint o arian a chaniatâd cynllunio.
Fe wnaethon ni alw ein hunain yn ‘Brosiect Gweilch y Pysgod Sir Benfro’ ac fe gawson ni grant o £5,000 gan y Sefydliad Cynghrair Cefn Gwlad a llwyddo i sicrhau caniatâd ar gyfer pum safle ar gyfer gosod polion ar leoliadau preifat yn rhannau uchaf y Cleddau.
Llwyddodd y tîm i gwblhau’r pum cais cynllunio ar wahân, yn ôl gofynion y Parc Cenedlaethol. Fe wnaethon ni adeiladu’r llwyfannau a’r nythod brigau dwy droedfedd o uchder a oedd wedi’u gosod arnynt yn barhaol.
Cawsom hwb enfawr gan National Grid, a roddodd 3 polyn telegraff i ni (mae’r ddau blatfform arall wedi’u gosod ar foncyff pinwydd Albanaidd 15 metr o uchder) ac yn bwysicach, darparwyd y bobl a’r peiriant ar gyfer codi’r polion. Defnyddiwyd glasbrint a ddarparwyd gan Sefydliad Roy Dennis ar gyfer adeiladu’r llwyfannau, a bu’n rhaid eu hindreulio dros y gaeaf, cyn i’r gweilch ddychwelyd yng ngwanwyn 2024.
Fe wnaethon ni adeiladu’r platfformau ar ddiwedd haf 2023 ac yn gynnar yng ngwanwyn 2024 fe ddychwelon ni gyda llwyfan gwaith uchel symudol (diolch unwaith eto i’r National Grid) a bagiau tunnell o fwsogl a dail yr oeddem wedi’u casglu, er mwyn eu gosod yn y nythod a wnaed o frigau.
Cawsom lwyddiant ar unwaith ym mis Ebrill ac roedd hyn yn hynod gyffrous. Gosodwyd camera arbennig (‘trailcam’) yn un o’r nythod, a llwyddwyd i gael lluniau o aderyn gwryw ifanc a oedd wedi’i dagio â modrwy ‘KC1’, yn defnyddio’r nyth. Cafodd yr aderyn hwn ei eni ar nyth Glaslyn yng Ngogledd Cymru yn 2019. Ar ôl treulio ychydig wythnosau yn ychwanegu defynydd at y nyth, gan ddefnyddio gwymon ar adegau, aeth ar daith diwrnod i Aberhonddu (lle cafodd ei dag ei adnabod unwaith eto) a dychwelyd i’r Cleddau gydag aderyn benywaidd!
Gwelwyd y pâr ar y nyth am ychydig wythnosau, ond tawelodd pethau ar ddiwedd mis Mai. Gwelwyd amryw o weilch yn pysgota yn ystod yr haf, ond yn anffodus, ni welwyd defnydd pellach yn rheolaidd o’n ‘nythod ni’. Fodd bynnag, rydym yn obeithiol bod KC1 bellach yn gyfarwydd â’r Cleddau ac y bydd yn dychwelyd yn ystod y gwanwyn nesaf, ychydig yn fwy aeddfed ac yn barod ar gyfer gwneud ei gartref hardd am byth yn Sir Benfro.”
Dewch o hyd i ni ar Facebook ac Instagram @pembs_osprey_project
Lluniau trwy garedigrwydd @davewe1ton
Peth gwybodaeth ychwanegol am Weilch y Pysgod
Mae’r gwalch y pysgod yn ysglyfaethwr arswydus, sydd ar ben uchaf y gadwyn fwyd. Mae’n hela pysgod sy’n nofio mewn dŵr bas trwy blymfomio i mewn i’r dŵr a bachu ei grafangau miniog yng nghefnau’r pysgod. Mae’r aderyn hwn yn rhywogaeth eiconig ac yn un o adar ysglyfaethus mwyaf prin Prydain. Fel yr afanc a’r eryr cynffonwen, mae’n enghraifft o stori dad-ddofi lwyddiannus.
Esboniodd Toby Phelps, sy’n adaregydd ac yn fab i Kevin:
“Mae gan y gweilch gadarnle yn yr Alban ac maen nhw’n ymledu tua’r de wrth i’w niferoedd dyfu. Dwi’n meddwl mai dim ond mater o amser yw hi cyn i weilch y pysgod ailgytrefu ar y Cleddau – mae’r cynefin yn ddelfrydol iddynt ac mae llawer o fwyd ar eu cyfer. Yr unig beth sydd ar goll yw lleoliadau nythu addas. Gobeithio bod y platfformau wedi dileu’r rhwystr olaf hwnnw ac y bydd hyn yn arwain at iddynt ailgytrefu’n fwy cyflym yn Ne Cymru.”
Mae parau o weilch y pysgod yn defnyddio’r nythod uchel hyn am oes. Byddant yn magu hyd at 50 o gywion, bob amser gyda’r un partner. Wrth ystyried faint o siawns sydd iddynt lwyddo, dywedodd Toby Phelps:
“Yn dawel fach, ‘dw i’n obeithiol. Rwy’n meddwl efallai y bydd aderyn ifanc yn gwneud ei gartref ar y Cleddau yn ystod yr haf nesaf ac yn edrych yn ofalus ar y llwyfannau nythu. Yna, yng ngwanwyn 2025 neu 2026, pan y bydd yn ddigon hen i fridio, y gobaith yw y bydd yn defnyddio un o’r llwyfannau i fagu ei gywion.”
Yn 2024, bu’r gweilch yn bridio am y tro cyntaf ers 200 mlynedd yn Iwerddon, mewn lleoliad cyfrinachol yn Swydd Fermanagh. Ar un adeg, roedd yr aderyn yn gyffredin ym Mhrydain, ond cawsant eu hela hyd at ddifodiant ym 1916 gan gasglwyr wyau Fictoraidd. O dro i dro wedi hynny, gwelwyd gweilch y pysgod yn mudo o’u cartrefi gaeafol yng Ngorllewin Affrica i fannau magu haf yn Sgandinafia, ond ni fu’r gweilch yn bridio eto ym Mhrydain tan 1954. Digwyddodd hyn ar Loch Garten yn Aviemore yn yr Alban. Gwelwyd y niferoedd yn codi’n araf ledled yr Alban oherwydd ailgytrefu naturiol ac erbyn 1991 roedd 71 o barau magu.
Ym 1996, bu prosiect i ailgyflwyno gweilch y pysgod i Rutland Water yn Lloegr mor llwyddiannus nes i ddau bâr symud i Gymru – un ger y Trallwng yn Sir Drefaldwyn a’r llall ger Porthmadog yng Ngogledd Cymru. Bellach mae 300 o barau magu yn y DU, ac mae llawer yn cael eu cynorthwyo gan lwyfannau nythu fel y math a adeiladwyd gan Brosiect Gweilch y Pysgod Sir Benfro.